Mae’r M4 ynghau i’r gorllewin rhwng cyffordd 35 (Pencoed) a chyffordd 36 (Sarn) o ganlyniad i wrthdrawiad.

Does neb wedi cael anafiadau, yn ôl adroddiadau, ond mae rhybudd i deithwyr fod yn ofalus pan fydd y ffordd yn cael ei hagor eto.

Mae ail wrthdrawiad wedi bod erbyn hyn, a hwnnw yn ardal Y Pîl (rhwng cyffordd 36 a chyffordd 37).

Mae’r ffordd yn wlyb iawn, yn ôl yr heddlu, yn dilyn glaw trwm yn yr ardal.

Mae’r heddlu’n rhybuddio na ddylid teithio ar y ffyrdd yn yr ardal oni bai bod gwir angen.