Cafodd pont sydd newydd ei chodi yng Nghwm Idwal yn Eryri ei hagor i’r cyhoedd ddydd Gwener.

Cafodd Bont Ffos Wen,  neu ‘Pont Bob’, ei chodi ar safle’r Warchodfa Natur gan yr Awyrlu a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

Cafodd yr enw ‘Pont Bob’ am mai Bob, labrador du, oedd y cyntaf i groesi’r bont, ynghyd â John Bryn Owen a Dave Parry.

Mae’r ardal yn adnabyddus am ei chreigiau a’i phlanhigion prin.