Mae pryderon am gynlluniau i gau ward i gleifion â dementia yn Ysbyty Cas-gwent yn Sir Fynwy.

Hon yw’r unig ward o’i fath yn y sir, ond mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn bwriadu ei chau, gan gynnig gwasanaethau yn y gymuned yn ei lle.

Y bwriad yw cau’r ward yng Nghas-gwent, a pharhau i gynnig gwasanaethau yn Ysbyty Tri Chwm yng Nglyn Ebwy, Ysbyty St Woolos yng Nghasnewydd ac Ysbyty Ystrad Fawr yn Ystrad Mynach.

Fe fydd nifer y gwelyau yn gostwng o 72 i 67, ond fe fydd uned iechyd meddwl yn parhau i gynnig gwasanaethau yn Ysbyty’r Sir yng Nhorfaen.

Pryderon

Ymhlith y rhai sydd wedi mynegi pryder mai cyn-Faer Cil-y-coed, Pauline Watts, a’i mab Armand sy’n gynghorydd sir.

Mae cyfnod yr ymgynghoriad yn dod i ben ddydd Gwener.

Ddydd Iau, daeth cynnig gan Gyngor Sir Fynwy y dylai’r bwrdd iechyd gynnal ymgynghoriad pellach.