Mae dros £20,000 wedi cael ei godi er cof am gefnogwr pêl-droed o Abertawe fu farw yn ystod gêm leol.

Roedd Mitchell Joseph, oedd yn 33 oed, yn chwarae i’w glwb, St. Joseph pan gafodd ei daro’n wael ar y cae,  chael trawiad ar y galon ar gaeau Mynydd Newydd.

Fe fydd rhagor o arian yn cael ei godi cyn ac ar ôl gêm Abertawe yn erbyn Lerpwl yn Stadiwm Liberty nos Lun.

Mae’r Elyrch wedi addo dyblu’r cyfanswm sy’n cael ei godi er mwyn galluogi clybiau lleol i brynu diffibrilwyr ar gyfer holl gynghreiriau’r ardal.

Ac fe fydd y chwaraewyr yn prynu un diffibriliwr am bob gôl maen nhw’n ei sgori rhwng nawr a diwedd y tymor, gan roi hyfforddiant ar sut i’w defnyddio.

Dywedodd llefarydd ar ran y clwb eu bod nhw’n awyddus i “wneud rhywbeth a allai helpu i achub bywyd yn y dyfodol”.

Mae’r clwb hefyd wedi rhoi 13 o grysau wedi’u llofnodi er mwyn cynnal ocsiwn er cof am Mitchell Joseph.

Ar yr un pryd, mae’r clwb wedi talu teyrnged i Thomas Davies, 24, fu farw mewn gwrthdrawiad ym Maesteg.
Roedd e’n dychwelyd adref ar ôl gêm gwpan Abertawe yn erbyn Wolves nos Fercher pan wyrodd oddi ar y ffordd ger Maesteg.

Roedd yn gefnogwr brwd ac yn teithio i gemau cartref ac oddi cartref.

Dywedodd llysgennad y clwb, Lee Trundle: “Ni ddylai unrhyw un fynd i gêm bêl-droed a methu â mynd adre’n ddiogel.”

Mae cronfa wedi’i sefydlu er cof amdano.

Mae’r clwb hefyd wedi talu teyrnged i David Dutton, cefnogwr 26 oed o Benfro fu farw’n ddiweddar.