Mae’r heddlu’n ymchwilio i achos marwolaeth dyn yng Nghaerfyrddin.
Fe fu farw’r dyn yn fuan ar ôl i’r heddlu gael eu galw i Stryd y Priordy yn y dref yn dilyn pryderon am ei gyflwr.
Nid yw’r heddlu ar hyn o bryd yn credu bod y digwyddiad yn un amheus.
Maen nhw’n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth a allai helpu eu hymchwiliad gysylltu â nhw ar 101.
Mae Stryd y Priordy, a fu wedi cau am rai oriau, bellach wedi ailagor.