Mae dyn o Gasnewydd wedi cael ei gyhuddo o lofruddio Anthony Bubbins, y cafwyd hyd i’w gorff mewn tŷ ar Ffordd Brynderwen yn y ddinas ddydd Llun.

Fe fydd Paul Paget, 54, yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Casnewydd heddiw.