Mae meddyg teulu wedi galw am weithredu brys er mwyn gwella gwasanaethau i gleifion trawsryweddol yng Nghymru.

Mae Dr. Charlotte Jones, Cadeirydd Pwyllgor Meddygon Teulu [GPC] BMA Cymru, wedi beirniadu ymddygiad “annerbyniol” rhai o fewn y gwasanaeth iechyd wrth drin pobol drawsryweddol.

Er i Lywodraeth Cymru gyhoeddi cynlluniau ym mis Awst i geisio gwella gwasanaethau i bobol sydd am newid rhyw, wrth siarad â meddygon eraill mewn cynhadledd heddiw, dywed Charlotte Jones, nad oes digon yn cael ei wneud.

“Yn anffodus, ers hynny, er gwaethaf y pwysau parhaus o GPC Cymru, does dim cynnydd wedi bod, ac yn waeth, mae diffyg tryloywder ac [ymdrech] i gymylu p’un ag oes awch go iawn i ddelifro’r gwasanaeth hwn,” meddai.

“Mae angen i’r sawl sy’n rhan o ddelifro’r gwasanaeth sylwi bod gwasanaeth israddol i’r gymuned drawsryweddol yn annerbyniol a ddim yn unol â’r hyn a gytunwyd gyda’r Ysgrifennydd Cabinet [dros Iechyd – Vaughan Gething], nac yn ddisgwyliedig gan y gymuned na’r proffesiwn.

“Mae’r gymuned drawsryweddol a’r proffesiwn o feddygon teulu yn haeddu gwell na hyn ac ni fyddan nhw’n disgwyl llai na hyn.”

Dydd Gwener, dangosodd gwaith ymchwil newydd fod mwy na thraean o bobol trawsryweddol Cymru, 36%, yn aros i gael y driniaeth feddygol y maen nhw’n dymuno ei chael.