Cafodd bron i 100 o bobol eu harestio gan Heddlu Dyfed-Powys ym mis Rhagfyr am fod dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau wrth yrru.

Fe gafodd 98 o bobol eu harestio yn ardal Dyfed-Powys yn unig, wrth i’r heddlu gynnal ymgyrch i geisio taclo yfed a gyrru dros gyfnod y Nadolig,

Roedd 83 wedi’u harestio o ganlyniad i yfed a gyrru ac 15 wedi’u harestio ar ôl cymryd cyffuriau tra wrth y llyw.

Bob blwyddyn, o Ragfyr 1af ymlaen, mae’r heddlu yn targedu mannau penodol er mwyn dal pobol sy’n gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.

Drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf, roedd Heddlu Dyfed-Powys wedi arestio 452 o bobol am yfed neu gymryd cyffuriau wrth yrru. Roedd 369 o’r rhain o achos alcohol ac 83 o ganlyniad i gyffuriau.

Pwysleisio’r neges eto

“Rydyn ni’n mabwysiadu ymagwedd ragweithiol wedi’i dargedu a arweinir gan gudd-wybodaeth tuag at yfed a gyrru, gan ddefnyddio adnoddau arbenigol Plismona’r Ffyrdd a swyddogion ymateb,” meddai’r Uwch-arolygydd Huw Meredith.

“Er siom, mae nifer yr arestiadau’n dangos bod rhai pobol yn barod i beryglu bywydau eraill a bywydau eu hunain drwy yrru o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.

“Mae ein neges yr un fath drwy gydol y flwyddyn – peidiwch ag yfed/cymryd cyffuriau a gyrru.”

Cafodd Ymgyrch Snap ei lansio ym mis Rhagfyr hefyd, sy’n annog pobol gyffredin i ffilmio ac anfon lluniau i’r heddlu o unrhyw un yn torri’r gyfraith wrth yrru – o ddefnyddio ffôn symudol i anwybyddu goleuadau traffig.