Mae Cyngor Sir Abertawe wedi eu cyhuddo o “fradychu pobol Abertawe”, yn dilyn honiad bod y cyngor yn bwriadu preifateiddio gwasanaethau hamdden.

Yn ôl undeb Unsain, mae’r cyngor eisoes wedi creu rhestr fer o gontractwyr preifat a fydd yn rhedeg canolfannau chwaraeon Treforys, Penlan a Phen-yr-heol, gyda’r penderfyniad ynglŷn â pha un ohonyn nhw fydd yn cael y gwaith fis Hydref eleni.

Mae’r undeb dros hawliau gweithwyr yn rhybuddio y bydd preifateiddio’r gwasanaethau hyn yn “gamgymeriad gwael”, gan y bydd yn gwneud niwed i ansawdd y gwasanaeth i’r cyhoedd, ac yn gwaethygu amodau gweithio staff.

Maen nhw hefyd yn cyfeirio at gwymp y cwmni adeiladu a gwasanaethau cyhoeddus, Carillion, fel enghraifft o’r modd y mae preifateiddio gwasanaethau’n beryglus ac yn gostus i’r pwrs cyhoeddus.

Angen gwelliannau, nid preifateiddio

“O dan bwysau wedi blynyddoedd o doriadau, mae Cyngor Sir Abertawe wedi cael ofn a dewis mynd am yr ateb economaidd tymor byr, gyda phreifateiddio a fydd ddim yn fanteisiol i’r gymuned leol,” meddai Chris Cooze, Ysgrifennydd Unsain dros ranbarth Dinas a Sir Abertawe.

“Mae gan gwmnïau preifat ddiddordeb mewn punnoedd, nid yn ansawdd y gwasanaethau i’r cyhoedd, ac yn ôl yr hyn mae profiad wedi dysgu i ni, pan mae canolfannau mewn dwylo preifat, mae ffioedd defnyddwyr yn cynyddu ac oriau agored yn lleihau.

“Rydym ni’n galw ar gynghorwyr i wrthwynebu’r cynllun hwn o breifateiddio, ac i gefnogi cynllun o welliannau a fydd yn atebol i bobol Abertawe ac yn gwella amodau cyflogadwyedd staff.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Gyngor Sir Abertawe am ymateb.