Mae cynghorydd lleol yn “hynod siomedig” gyda phenderfyniad perchnogion canolfan wyliau yng ngogledd Ceredigion i roi enw Saesneg ar hen fferm, yn hytrach na chadw’r enw Cymraeg gwreiddiol.

Mae Mountain Sea View Glamping yn ganolfan wyliau sydd wedi’i lleoli ar fferm ddefaid yn ardal Eglwys-fach, gogledd Ceredigion, lle mae cyfle i bobol dreulio wersylla mewn ‘podiau’ bychain.

Ac mae golwg360 ar ddeall bod perchnogion y safle wedi penderfynu peidio â defnyddio enw Cymraeg y fferm, ‘Bwlcheinion’, oherwydd ei fod yn rhy anodd i bobol ei ynganu, a’u bod nhw’n ofni colli cwsmeriaid oherwydd hynny.

“Hynod siomedig”

 “Dw i’n hynod siomedig i weld y fath beth yn digwydd,” meddai Ellen ap Gwynn, arweinydd Cyngor Ceredigion.

“Dw i’n gobeithio eu bod nhw wedi cysylltu gyda’r swyddfa yn Aberaeron i ddweud bod nhw wedi meddwl newid yr enw, achos fel rheol ry’n ni’n ceisio darbwyllo pobol i beidio.

“Ry’n ni wedi bod ag ymgyrch i drio perswadio pobol i beidio newid yr enwau trwy dynnu sylw at faterion fel y ffaith bod enwau’n rhan o dreftadaeth y sir, ac yn rhan o gymeriad ag ethos y sir hefyd.

“Ond mae lan iddyn nhw yn y pen draw, does gyda ni ddim hawl gyfreithiol i stopio nhw newid enw.”

Mae golwg360 wedi gofyn i Mountain Sea View Glamping am ymateb.