Mae traean a mwy o blant tlawd Cymru yn tangyflawni yn yr ysgol, yn ôl adroddiad newydd.

Yn ôl adroddiad sydd wedi cael ei gyhoeddi gan yr elusen Achub y Plant heddiw, mae 30-35% o blant sy’n byw mewn tlodi yng Nghymru yn “colli tir” yn yr ysgol, o gymharu â’u cyfoedion sy’n dod o deuluoedd mwy cyfoethog.

Hefyd mae’r adroddiad hefyd yn dweud bod bron i hanner y plant a oedd yn y grŵp isaf ar ddechrau’r ysgol gynradd yn parhau i fod ar ei hôl hi yn saith oed, yn 11 oed ac yn 14 oed.

Dywed Achub y Plant bod angen i Lywodraeth Cymru weithredu ar unwaith i wella darpariaeth addysg a gofal yn y blynyddoedd cynnar, er mwyn cau’r bwlch cyrhaeddiad.

Angen newid

 “Mae Achub y Plant am sicrhau bod pob plentyn ifanc yng Nghymru yn gallu defnyddio a manteisio ar addysg a gofal plant yn y blynyddoedd cynnar,” meddai awduron yr adroddiad.

“Mae gwireddu’r uchelgais hon yn dibynnu ar lunio polisi ar gyfer y blynyddoedd cynnar sy’n sicrhau bod addysg a gofal o ansawdd uchel ar gael i bob plentyn ifanc, gan barhau i gynhorthwy rhieni i gael gwaith a mynd i’r afael â phroblemau yn ymwneud â chyflogaeth menywod.

“Yn ogystal, mae angen datblygu darpariaeth Gymraeg yn sector y blynyddoedd cynnal a gofal plant.”

Ymateb Llywodraeth Cymru

 Dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru: “Rydym yn croesawu’r adroddiad gan Achub y plant. Mae torri’r cylch amddifadedd a thlodi yn ymrwymiad tymor hir i’r llywodraeth hon, ac rydym yn llwyr gydnabod pwysigrwydd sylfaenol y blynyddoedd cynnar wrth gyflawni hyn.

“Yn Ffyniant i Bawb, rydym wedi nodi ein gweledigaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar a chamau gweithredu allweddol yn ystod y Cynulliad hwn i sicrhau bod plant yng Nghymru o bob cefndir yn cael y dechrau gorau i fywyd.”