Mae cronfa wedi ei sefydlu er cof am y dyn a gafodd ei ddarganfod yn farw ar fynydd Tryfan yn Eryri ddechrau’r wythnos.

Cafodd corff Iwan Pritchard Huws, 34 oed, o Glogwyn Melyn, Dyffryn Nantlle, ei ddarganfod am tua 10:30 fore Llun ar waelod ceunant ger ochr orllewinol y mynydd.

Roedd Iwan Huws yn gerddwr ac yn gerddor profiadol, ac yntau yn drymio i’r band Yucatan.

Bu dros 40 o bobol o dimau achub mynydd yn chwilio amdano.

Ac ers yr anffawd, mae aelodau o’r teulu wedi sefydlu cronfa i godi arian ar gyfer Sefydliad Achub Dyffryn Ogwen, er cof am Iwan Huws sy’n cael ei ddisgrifio yn “berson anhygoel, yn gerddor, ac yn anturiaethwr oedd wedi trafaelio’r byd”.

Y targed gwreiddiol ar gyfer y gronfa oedd £500, ond mae’r swm bellach wedi cyrraedd dros £1,500.

“Arwyr”

 “Roedd ymdrechion y tîm wrth iddynt chwilio am Iwan yn ysbrydoledig”, meddai ei gariad, Elin Gwyn, “ac er nad oedd y canlyniad yr hyn roeddem yn obeithio amdano, rydym fel yn hynod o ddiolchgar am eu hymroddiad.

“Roedd Iwan yn edmygu’r criw achub yn fawr iawn, ac wedi gobeithio ymuno gyda nhw ei hun ac wedi dechrau hyfforddi fel arweinydd mynydd. Maent yn arwyr, gyda phob un ohonynt yn gwirfoddoli.”