Daeth dros 400 o bobol i wylnos ym Mhenrhyndeudraeth neithiwr i nodi wythnos union ers i ddynes a babi farw mewn gwrthdrawiad.

Bu farw Anna Williams, 22 oed, o Benrhyndeudraeth, a’i nith, Mili Wyn Ginniver, chwe mis oed, o Flaenau Ffestiniog, mewn gwrthdrawiad rhwng car a lori ar yr A487 ger Gellilydan ddydd Iau diwethaf (11 Ionawr).

Mae mam y babi, Sioned Williams, a oedd yn gyrru’r car, yn parhau mewn cyflwr difrifol ond sefydlog mewn uned arbenigol yn yr ysbyty yn Stoke.

Ers y digwyddiad, cafodd gronfa ei sefydlu er mwyn cefnogi’r teulu, ac erbyn hyn mae swm y gronfa honno wedi cyrraedd £17,000.

Cafodd gwylnos arall ei chynnal yn nhref Porthmadog nos Lun (Ionawr 15), lle’r oedd 200 o bobol yn bresennol.

Dywedodd un o drefnwyr yr wylnos ym Mhenrhyndeudraeth neithiwr bod y digwyddiad wedi bod yn “sioc” i’r gymuned gyfan, a’u bod nhw i gyd “mewn gwewyr”.