Mae un o drigolion Porth Madryn wedi anfon neges i ddweud fod y tân i’r gogledd o’r ddinas bellach dan reolaeth.

Roedd y fflamau i’w gweld yn llosgi’n ddygn ers nos Fercher, ac roedd mwg trwchus yn dal i godi i’r awyr cyn cinio heddiw yn ardal La Pampa.

Ond mae Dario Jones o Borth Madryn yn ein sicrhau bellach fod y fflamau wedi’u diffodd, a bod y sefyllfa dan reolaeth.

Dyma ei neges o Batagonia: