Mae dros ugain mil o bobol wedi cefnodi galwad ar i arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, beidio â rhoi ei le yn ol i Neil McEvoy yng ngrwp y blaid ym Mae Caerdydd.

‘Concerned Welsh Women’ oedd yn gyfrifol am greu’r ddeiseb ar y we  ym mis Mawrth 2017, yn galw ar i Blaid Cymru “wneud safiad tros fenywod Cymru”. Erbyn heddiw, roedd 20,459 o enwau arni.

Mae cyn-Aelod Cynulliad Plaid Cymru yn Llanelli, Helen Mary Jones, ymysg y rheiny sydd wedi ei harwyddo a’i rhannu er mwyn i eraill ychwanegu eu henwau.

Ac mae’r llythyr sy’n mynd â’r ddeiseb yn dweud fod y rheiny sydd wedi torri eu henwau arni yn “galw ar arweinyddiaeth Plaid Cymru i wneud safiad… trwy beidio â derbyn Neil McEvoy yn ol i’r grwp yn y Cynulliad”.

Ac mewn llith wedyn sy’n rhestru’r rhesymau tros wrthod ei dderbyn, mae’n tynnu sylw at wyth achlysur neu ddigwyddiad sy’n cefnogi’r alwad.

Y nod, meddai trefnwyr y ddeiseb, ydi cael 25,000 i’w harwyddo, cyn y bydd y ddogfen yn cael ei chyflwyno i Leanne Wood, arweinydd Plaid Cymru.