Fydd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ddim yn cael y cyfrifoldeb am ddelio â chwynion yn ymwneud â’r Gymraeg, wedi’r cwbwl.

Mae Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, wedi dweud heddiw bod mwy o anawsterau nac o fuddion wrth drosglwyddo cyfrifoldebau dros ymchwilio i gwynion iaith i swyddfa Nick Bennett.

Fe gododd yr Ombwdsmon wrychyn pan ymatebodd i Bapur Gwyn Bil y Gymraeg Llywodraeth Cymru ac awgrymu y gallai ei swyddfa ystyried os yw corff wedi torri Safonau’r Gymraeg.

Mae Eluned Morgan yn dweud ei bod wedi ystyried y cynnig “yn fanwl” ac wedi cau’r mater drwy ddweud bod yr “anawsterau yn drech na’r buddion”.

Dim camau pellach

“Pe byddem yn gweithredu ar gynnig yr Ombwdsmon, byddai angen i ni ymestyn cwmpas pwerau’r Ombwdsmon yn sylweddol,” meddai mewn datganiad i Aelodau Cynulliad.

“Ar hyn o bryd, mae awdurdodaeth yr Ombwdsmon yn ymestyn i wasanaethau cyhoeddus datganoledig yn unig. Byddai hyn angen newid er mwyn cynnwys adrannau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac, o bosib, unrhyw gorff yn y sector preifat.

“… Ni fyddaf yn dilyn hyn ymhellach a ni fyddaf yn cynnal ymgynghoriad ar y cynnig. Mae’r cynnig, serch hynny, wedi bod yn rhywbeth i ni gnoi cil arno ac rwy’n diolch i’r Ombwdsmon am ei gyfraniad gwerthfawr ac am ysgogi dadl ar ddeddfwriaeth y Gymraeg.”

Mae disgwyl i’r Llywodraeth gyhoeddi adroddiad yr wythnos nesaf yn crynhoi’r ymatebion a ddaeth i’w ymgynghoriad ar y Papur Gwyn, Taro’r cydbwysedd iawn: cynigion ar gyfer Bil y Gymraeg.