Mae un o gwsmeriaid selog tafarn ym Mangor yn ofni y gallai helynt iaith yno leihau awydd y staff i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg.

Yn ôl Wil Jones o’r Felinheli, roedd staff Table Table – a gafodd sylw anffafriol ar ôl i’r actor Yoland Williams ddweud ei fod wedi cael ei anfon oddi yno am siarad Cymraeg – yn ceisio dysgu’r iaith ac yn gwneud eu gorau i’w defnyddio hi.

“Mae mwy o Gymraeg yn cael ei siarad yn y dafarn yma nag unrhyw dafarn arall ym Mangor,” meddai wrth g0lwg360. “Dw i wedi bod yn dysgu’r staff yn anffurfiol i siarad Cymraeg, ac maen nhw’n llwyddo, am nad oes gynnon nhw fy ofn i.

“Maen nhw’n siarad Cymraeg efo cwsmeriaid – a’r acid test, maen nhw’n siarad Cymraeg efo’i gilydd.”

‘Nid iaith, ond agwedd’

Ac yntau’n gwsmer cyson yn y dafarn, roedd y cyn-athro celf a’r cerddor yn dweud nad iaith oedd wrth wraidd y penderfyniad i anfon yr actor oddi yno.

Yn ôl y staff eu hunain, meddai, roedd Yoland Williams, sydd fwyaf adnabyddus am actio Teg Morris ar Pobol y Cwm, wedi cael cais i adael oherwydd ei agwedd ymosodol at y staff.

Ac mae Wil Jones, a gyrhaeddodd y dafarn ychydig ar ôl yr helynt, yn dweud bod gan y staff stori wahanol iawn i’r actor –  sef ei fod wedi codi ei lais ar aelod o’r staff ac wedyn y dirprwy reolwr.

Mae’n honni hefyd bod Yoland Williams wedi bod yn “amharchus” at fyrddaid o gwsmeriaid Cymraeg eu hiaith.

Troi pobol yn erbyn y Gymraeg

Mae Wil Jones yn dadlau bod agwedd honedig Yoland Williams yn debygol o droi pobol, gan gynnwys staff y bwyty, yn erbyn y Gymraeg.

“Nid dyma’r ffordd i’w gwneud hi,” meddai. “Dw i’n medru cael rhain ar fy ochr i. Fwya’n y byd o bobol ddi-Gymraeg fedrwn ni gael ar ein hochor ni yn dysgu Cymraeg ac yn siarad Cymraeg, gorau’n y byd.

“Ddois i fewn (i Table Table ar ddiwrnod ffrae Yoland Williams) a’r peth cynta’ ges i gan aelod staff wrth y drws oedd, ‘Lle oeddat ti bum munud yn ôl?’

“Dydi bod yn ymosodol nac yn amharchus ddim yn mynd i ennill tir o gwbwl,” meddai Wil Jones. “Dw i’n cael llwyddiant yma. Mi fasa hwn wedi medru difetha bob dim, difetha’u hyder nhw. Nid dyma ydi’r ffordd o ennill tir a chael pobol ar ein hochr ni.”

Ymateb Yoland Williams 

 

“Yn amlwg, o be’ mae’r Wil Jones yma yn ei ddweud, doedd o ddim yna ar y pryd ac felly fedar o ddim deud dim byd ynglŷn â beth digwyddodd achos, yn amlwg, yr unig ochr mae o wedi cael ydi ochr y staff ac wrth gwrs maen nhw’n mynd i sticio gyda’i gilydd yn fy erbyn i.

“Felly dw i ddim yn gwybod sut mae Wil Jones yn medru ymateb o gwbwl i hyn, gan nad oedd o yno.

“Mae o’n deud bod o’n mynd yno i ddysgu nhw i siarad Cymraeg. Wel, ella’ fedr o eu cael nhw i ddysgu beth mae dau bortion o chips yn meddwl ta?

“A hefyd, ga’ i ddeud, roedd y person oedd efo fi yn berson uniaith Saesneg ac mi oedd hi’n ddallt yn iawn beth oedd yr ordor, ac mi oedd hi hefyd yn cytuno os oedd rhywun yn haerllug, mai y staff a rheolwr Table Table oedd yn haerllug.

“… Yr unig beth dw i eisio ei ddeud ydi, doedd o ddim yno felly fedr o ddim commentio, a’r unig ochr mae o wedi cael ydi eu hochr nhw – ac wrth gwrs, maen nhw’n mynd i sefyll gyda’i gilydd yn fy erbyn i.”