Mae’r gwasanaethau brys wedi eu galw at dân mewn cartref gofal yn ardal Llanrwst.

Roedd y tân wedi cynnau mewn adeilad ym mhentref Pandy Tudur yn ystod y nos.

Cafodd chwech o gerbydau tân eu hanfon i ddiffodd y fflamau, ac mae criwiau’n parhau ar y safle.

Mae chwech o bobol wedi’u cludo i Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan yn dioddef o effeithiau anadlu mwg.