Mae ymgyrchydd o Gaerdydd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno polisi a fydd yn sicrhau bod plant a phobol ifanc mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn cael dysgu mwy am dafodieithoedd.

Mae Aled Thomas yn byw yng Nghaerdydd, ond fe ddaw yn wreiddiol o Aberteifi yng Ngheredigion, ac yn ei lythyr at Lywodraeth Cymru, mae’n mynnu bod angen dysgu disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg sut i “siarad Cymraeg mewn tafodiaith”.

“Fel unigolyn sy’n siarad iaith gyda dylanwad amlwg o Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin”, meddai, “hoffwn weld ysgolion cynradd y gwahanol ardaloedd yn dysgu’r dafodiaith lafar sy’n berthnasol i’r ardal, gan obeithio y byddai pobol yn cael eu hannog i siarad yr iaith a’i gilydd drwy ddefnyddio’r dafodiaith.”

Problem “ffurfiol a safonol”

Un o’r problemau sydd gan Aled Thomas ynglŷn â sut mae’r Gymraeg yn cael eu dysgu mewn ysgolion ar hyn o bryd yw ei bod yn rhy “ffurfiol a safonol”.

“Dw i’n meddwl ei bod yn bwysig ein bod ni’n dysgu am y ffyrdd mae pobol yn siarada dweud geiriau’n wahanol achos mae hwnna’n ychwanegu at faint mor ddiddorol yw’r iaith Gymraeg”, meddai wrth golwg360.

 

Angen rhoi hwb i’r iaith naturiol

Mae Aled Thomas hefyd o’r farn y bydd gwersi Cymraeg sy’n rhoi pwyslais ar dafodieithoedd yn “hwb i’r iaith”, gan roi’r hyder i bobol siarad Cymraeg “naturiol” â phobol.

A dyw’r ymgyrchydd ifanc o Gaerdydd ddim yn credu y byddai dysgu tafodieithoedd yn rhoi “ofon” i ddysgwyr Cymraeg, ond yn hytrach fe fyddai’n fwy tebygol o’u denu.

 

Lle mae’r modiwlau lleol?

Awgrym y mae’n rhoi gerbron Llywodraeth Cymru yw y dylai modiwlau am dafodieithoedd ddod yn rhan o’r cwricwlwm addysg, lle y bydd cyfle i ddisgyblion ddysgu am hanes datblygiad yr iaith, a sut mae geiriau wedi cael eu ffurfio mewn gwahanol ardaloedd o Gymru.