Mae’r heddlu wedi cadarnhau bod pedwerydd dyn yn y ddalfa yn dilyn ymosodiad difrifol yn Aberystwyth dros y penwythnos.

Mae Ifan Owens o Gaerdydd, myfyriwr ail flwyddyn, wedi bod yn yr ysbyty ers y digwyddiad yn Stryd Uchel y dref am oddeutu 2.20yb ddydd Sul (Ionawr 14).

Fe gafodd ei gludo yn gyntaf i Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, cyn cael ei drosglwyddo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd, lle mae’n parhau “mewn cyflwr difrifol”.

Fe gyhoeddodd Heddlu Dyfed-Powys ddydd Sul fod tri dyn – 20,23 a 25 oed – wedi’u harestio yn dilyn y digwyddiad, ac erbyn hyn maen nhw wedi cadarnhau bod pedwerydd dyn, 19 oed, wedi cael ei ddwyn i’r ddalfa.

Cafodd y pedwar eu harestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol ac maen nhw’n parhau yn y ddalfa.

Fe wnaeth yr heddlu apêl newydd am dystion i’r digwyddiad ddoe, ac maen nhw’n galw ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101.