“Yr un hen gân y mae pawb wedi’i chlywed o’r blaen” sydd i adolygiad annibynnol newydd o Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a gyhoeddwyd ddoe (dydd Mawrth, Ionawr 16) – dyna farn Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.

“Ry’n ni wedi clywed yr un hen bethau droeon o’r blaen, ond does dim yn cael ei wneud,” meddai Sophie Howe wrth golwg360, gan ddweud bod yna ddiffyg manylion yn y ddogfen hefyd.

“Heb fuddsoddiad mawr ac arweiniad wrth Lywodraeth Cymru, mae’n mynd i fod yn anodd i fyrddau iechyd i wneud y shifft,” meddai. A dyna pam y mae angen “dewrder” ac “arweiniad cryf” ar y top.

“Mae angen sgwrs onest, agored gyda’r cyhoedd, y Gwasanaeth Iechyd ac â llunwyr polisi am sut y gallwn ni symud ymlaen o’r fan hyn, a pha gyfrifoldebau all y cyhoedd eu cymryd yn hynny o beth.”

Mae’r adroddiad yn cynnwys gweledigaeth newydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gyda chamau gweithredu yn dod o dan bedair nod:

  • Gwella iechyd a lles y boblogaeth;
  • Gwella profiadau ac ansawdd y gofal i unigolion a’u teuluoedd;
  • Gwella lles y gweithlu;
  • Cynyddu’r gwerth a geir o’r adnoddau sy’n cael eu buddsoddi mewn gwasanaethau.

Rhaid agor llygaid wrth edrych tua’r dyfodol

Un o’r materion sylfaenol sydd angen sylw, yn ôl Sophie Howe, yw sut y mae darparu gwell integreiddiad rhwng Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

“Mae pobol wedi bod yn canu clodydd a dweud ei fod yn syniad da am flynyddoedd, ond mewn gwirionedd mae wedi bod yn datblygu’n araf iawn,” meddai. “Pa orchymyn maen nhw’n mynd i’w gael er mwyn rhoi hyn ar waith, mewn gwirionedd?

“Ydi, mae’n anodd iawn i wneud y shifft yma, o ystyried yr hinsawdd economaidd, a thrio delio gyda’r galw sydd gyda chi’n barod.

“Mae angen edrych i’r dyfodol ac agor ein llygaid. Sut fath o Wasanaeth Iechyd ydyn ni eisiau ei weld? Gallwn wastad guddio ein pennau yn y tywod, a gadael i bethau barhau fel y maen nhw, ond bydd pwynt yn cyrraedd lle fydd pethau’n mynd yn ffradach.”

Siom

Mae angen golwg ehangach ar bethau, meddai, ac mae’n cyfaddef ei bod hi ychydig yn siomedig bod yr adroddiad wedi edrych ar yr ochr Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn unig.

“Mae penderfynyn mwyaf iechyd yn cael eu dosbarthu tu allan i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

“Er enghraifft, ydych chi’n byw mewn tlodi? Ydych chi’n ddi-waith? Ydych chi’n byw mewn ardal heb lygredd aer ac ati? Gwasanaethau cyhoeddus eraill sydd ynghlwm a’r rheiny…

“Oni bai bod pawb yn effro i’r agenda hon, ac yn gweithredu, fe fydd hi’n llwm arnon ni.”