Mae Gweinidog y Gymraeg yn edrych ymlaen at gyfarfod heddiw â chynrychiolaeth o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg – wrth i’r mudiad geisio ei hargyhoeddi bod angen sefydlu corff newydd i hyrwyddo’r iaith heb ddeddfu.

Mewn cyfarfod gydag Eluned Morgan heddiw, fe fydd dirprwyaeth o’r Gymdeithas yn dadlau y dylid rhoi’r gorau i’r cynlluniau am bapur gwyn arfaethedig a fyddai’n diddymu rol olComisiynydd y Gymraeg, gan ganolbwyntio ar wella a gweithredu’r system bresennol.

Ymhlith yr opsiynau y mae’r Gymdeithas yn eu hargymell yn eu hymateb i’r papur gwyn mae:

  • sefydlu corff hybu’r Gymraeg ar wahân i’r Comisiynydd a’r Llywodraeth;
  • datblygu protocolau newydd gyda Chomisiynydd y Gymraeg;
  • gwella’r system gwyno a dod â Safonau i rym.

Agwedd iach at yr iaith 

“R’yn ni’n croesawu agwedd y Gweinidog ers iddi gael ei phenodi, yn enwedig ei sôn am wrando a chanolbwyntio ar gyflawni ar brif darged y Llywodraeth sef cyrraedd miliwn o siaradwyr,” meddai Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

“Rydyn ni hefyd yn croesawu ei sylwadau ynglŷn â pheidio torri rhywbeth sydd yn gweithio. Byddwn ni’n cyflwyno nifer o argymhellion adeiladol a manwl ynglŷn â sut i symud ymlaen.

“I nifer ohonom ni, wedi’r pwyslais cadarnhaol iawn ar gyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg, bu’r papur gwyn yn codi sgwarnogod anffodus a chwalodd y cyfeiriad clir a chadarn yna.

“Byddai’n llawer gwell i swyddogion ganolbwyntio ar osod Safonau ar ragor o gyrff a gwaith arall,” meddai wedyn, “yn hytrach na gwastraffu amser ar bapur gwyn, a fyddai, o’i weithredu’n troi’r cloc yn ôl i system Deddf 1993 a fethodd i amddiffyn hawliau defnyddwyr yr iaith.”

Mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth golwg360 fod y Gweinidog yn “edrych ymlaen at gyfarfod adeiladol a thrafod y materion yma gyda Chymdeithas yr Iaith”.