Fydd y ffaith bod cwmni adeiladu Carillion wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr yn cael “dim effaith sylweddol” ar Gymru, meddai’r Llywodraeth ym Mae Caerdydd – er bod ffordd osgoi gwerth £57m yn Sir Benfro ymysg un o’i brosiectau yr ochr yma i Glawdd Offa.

Fe ddaeth y cyhoeddiad ym mis Chwefror y llynedd mai Carillion sydd wedi cael y cytundeb i ddylunio a chynllunio ffordd osgoi gwerth £57m yn Llanddewi, Sir Benfro.

Fe fyddai’r ffordd osgoi 5km yn cynnwys 2.5km o briffordd yng ngogledd y pentref a 2.5km yn ochr orllewinol y pentref; gyda’r ffordd osgoi wedyn yn ail-gysylltu gyda’r A40 bresennol ar gylchfan Penblewin.

Ond yn ôl llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, ni fydd “effaith sylweddol” yng Nghymru.

“Yn wahanol i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, dim ond nifer bach iawn o gontractau sydd gan Lywodraeth Cymru gyda Carillion.

“Nid ydym yn disgwyl i’r ffaith bod Carillion bellach yn nwylo’r gweinyddwyr gael effaith sylweddol ar ein seilwaith na’n gwaith ehangach.

“Byddwn yn gwneud popeth posibl i gefnogi gweithwyr Carillion yng Nghymru, gan gynnwys eu cynorthwyo i gael swyddi eraill neu i fanteisio ar hyfforddiant lle y bo angen drwy’n rhaglenni cymorth gan gynnwys REACT.”