Mae Heddlu Dyfed-Powys yn pryderu am ddiogelwch Tony Burt, 52 oed, o ardal Trecwn yng ngogledd Sir Benfro.

Y gred yw ei fod yn gyrru Peugeot 306 coch yn ardal Sir Benfro, gyda’r rhif cofrestru Y268 BEJ.

O ran ei olwg wedyn, mae Tony Burt yn gwisgo sbectol, dros 5 troedfedd o daldra, ac yn siarad ag acen Lundeinig.

Mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101.