Fe fydd Cynhadledd Allforio Cymru 2018 yn cael ei chynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd fis nesaf er mwyn cynnig gwybodaeth, cyngor, canllawiau a chymorth i gwmnïau sydd eisiau masnachu mwy dramor.

Mae’n rhan o’r ymdrech i gynyddu’r allforion o Gymru yn wyneb Brexit.

Fel rhan o’r gynhadledd, bydd cwmnïau allforio llwyddiannus megis Zip Clip o Bowys yn rhannu eu profiadau o ddatblygu masnach dramor, ac yn siarad am y cymorth sydd i’w gael gan Lywodraeth Cymru.

“Mae cwmnïau fel Zip Clip yn dangos bod allforio yn gallu trawsnewid busnes a’i alluogi i gyrraedd y lefel nesaf,” meddai Ken Skates, Ysgrifennydd Economi, Lywodraeth Cymru.

‘Mae cynyddu allforion Cymru yn bwysicach yn awr nag erioed wrth i’r Deyrnas Unedig baratoi i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.”

“Mae Llywodraeth Cymru’n awyddus i weithio gyda chwmnïau sydd am gynyddu eu hallforion, a chynnig yr help sydd ei angen angen arnyn nhw.”