Mar adolygiad annibynnol newydd o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn dod i’r casgliad bod angen system ar wahân ar Gymru i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal di-dor.

Mae’r adroddiad newydd, dan gadeiryddiaeth Dr Ruth Hussey, yn gwneud nifer o argymhellion am ffyrdd o newid a chryfhau’r drefn bresennol.

Mae hefyd yn ceisio wynebu’r heriau a fydd yn codi i’r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol dros y blynyddoedd nesaf.

“Rhaid i ni beidio â diystyru’r her sydd o’n blaen,” meddai. “Mae’n amlwg bod angen newid, ac yn amlycach fyth bod angen i hyn ddigwydd yn gyflym.

“Rydyn ni wedi gweld bod awch am newid, ac awydd i symud ymlaen. Mae angen ymrwymiad cryf i drawsnewid faint o waith sy’n cael ei wneud, beth sy’n cael ei wneud, a sut mae’n cael ei gyflawni.”

Mae’r adroddiad yn cynnwys gweledigaeth newydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gyda chamau gweithredu yn dod o dan bedwar nod:

  • Gwella iechyd a lles y boblogaeth;
  • Gwella profiadau ac ansawdd y gofal i unigolion a’u teuluoedd;
  • Gwella lles y gweithlu;
  • Cynyddu’r gwerth a geir o’r adnoddau sy’n cael eu buddsoddi mewn gwasanaethau.