Mae llys wedi bod yn clywed tystiolaeth yn achos cyn-filwr a’i fam o Sir Benfro, sydd wedi’u cyhuddo o lofruddio ei nain.

Mae Barry Rogers yn sefyll ei brawf yn Llys y Goron Abertawe ynghyd a’i fam, Penelope John, ar gyhuddiad o lofruddio ei nain, Betty Guy, 84 oed, a fu farw ar 7 Tachwedd 2011.

Mae’r rheithgor wedi clywed sut yr oedd Barry Rogers, 33, wedi cyfaddef iddo chwarae rhan ym marwolaeth ei nain, wrth dair merch y bu’n eu canlyn yn y blynyddoedd yn dilyn hynny.

Daeth Barry Rogers a Penelope John dan amheuaeth ar ôl i un o’r merched, Rhianne Morris, fynd at yr heddlu i adrodd beth roedd o wedi dweud wrthi.

Mae Penelope John wedi’i chyhuddo o roi tabledi a whisgi i’w mam.

Mae Barry Rogers o Abergwaun, a Penelope John o Landudoch, Sir Benfro, yn gwadu llofruddio Betty Guy, ynghyd a chyhuddiad arall o ddynladdiad.

Dim post mortem

Mae’r llys eisoes wedi clywed bod Penelope John wedi galw’r gwasanaethau brys i gartref Betty Guy yn oriau man 7 Tachwedd, 2011, gan ddweud ei bod hi’n credu bod ei mam wedi marw. Roedd hi wedi honni bod ei mam yn dioddef o ganser y stumog a’r coluddyn.

Roedd dau feddyg wedi archwilio corff Betty Guy ond ni chafodd archwiliad post mortem ei gynnal a chafodd tystysgrif marwolaeth ei gyhoeddi yn dweud ei bod wedi marw o bronco-niwmonia, septisemia a chlefyd y galon.

Clywodd y llys nad oedd unrhyw gofnod bod Betty Guy yn dioddef o ganser a bod ei chorff wedi cael ei losgi ar 11 Tachwedd.

Dyfais gudd

Tra roedd Barry Rogers a Penelope John yn y ddalfa, ar ôl cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ym mis Hydref 2016, roedd swyddogion yr heddlu wedi gosod dyfais clustfeinio cudd yng nghartref Penelope John, clywodd y llys.

Clywodd y rheithgor recordiadau o sgyrsiau rhwng y fam a’i mab yn trafod cael eu harestio a’r cyfweliadau gyda’r heddlu.

Yn ystod y sgyrsiau hynny roedd Penelope John i’w chlywed yn dweud, “roedd hi jest wedi marw, roedd hi’n hen,” tra bod Barry Rogers wedi dweud wrth ei fam nad oedd yr heddlu “yn gallu profi dim byd” ac nad oedd tystiolaeth.

Dywedodd Barry Rogers hefyd nad oedd gan ei fam “unrhyw beth i boeni yn ei gylch” ac mai fo oedd wedi “gwneud y weithred.”

Mae’r achos yn parhau.