Mae’r heddlu wedi cadarnhau bod corff dyn lleol wedi cael ei ddarganfod ar fynydd Tryfan yn Eryri.

Yn ôl Heddlu Gogledd Cymru, roedd y dyn wedi mynd i gerdded y mynydd ddydd Sul, ac mae timau achub mynydd ar hyn o bryd yn y broses o gasglu’r corff.

Nid yw ei farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus, ac mae ei deulu wedi cael gwybod.