Mewn darlith yng Nghaerdydd, mae arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi gosod allan yr hyn y mar hi’n ei alw’n “agenda radical” er mwyn sicrhau y bydd ‘penderfyniadau sy’n effeithio ar Gymru yn cael eu gwneud yng Nghymru’ trwy raglen o ddemocrateiddio a grymuso.

Wrth gyhoeddi pamffled gyda syniadau yn amrywio o addysg, i fenter, i ddiwygio democrataidd,  mae Leanne Wood yn dweud y gall rhoi mwy o lais i bobol dros y materion sy’n effeithio arnyn nhw a’u cymunedau, ail-gysylltu unigolion â gwleidyddiaeth a herio’r anobaith sydd wedi bod fwyaf amlwg yng ngoleuni degawd o doriadau a’r bleidlais i adael yr UE.

“Gwthio i’r ymylon”

“Dylai penderfyniadau am Gymru gael eu gwneud yng Nghymru. Ystyr ymreolaeth yw mai ni ddylai ddewis y pwerau yr ydym am eu rhannu gyda gwledydd eraill neu gydag Ewrop,” meddai Leanne Wood.

Mae’r ddwy weledigaeth a gynigir gan ddwy blaid fwyaf San Steffan yn gwthio ein hanghenion penodol ni fel cenedl i’r ymylon.”

Mae hi wedi cyhuddo Llafur o “ddiffyg democrataidd” gan ddweud nad yw’n “galluogi pobol i fod â pherchenogaeth dros eu hadnoddau eu hunain na’u rhedeg yn ddemocrataidd. Ni fydd yn grymuso pobol am nad yw’n ymddiried mewn pobol.”

Dros y dyddiau nesaf bydd Leanne Wood yn cychwyn ar daith o gwmpas Cymr, gan gynnal cyfarfodydd cyhoeddus i drafod y syniadau sydd yn y pamffled gyda phobol ar lawr gwlad.