Mae’r heddlu’n parhau i apelio am dystion i ddigwyddiad yn Aberystwyth dros y Sul pan gafodd dyn ei anafu’n ddifrifol.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad ar Stryd Uchel y dref am oddeutu 2.20yb ddydd Sul, ac fe gafodd Ifan Owens o Gaerdydd, myfyriwr ail flwyddyn, ei gludo i Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.

Yn ddiweddarach, fe gafodd ei drosglwyddo i Ysbyty Athrofaol Caerdydd yn un o hofrenyddion y gwasanaeth Chwilio ac Achub, ac mae’n parhau i dderbyn triniaeth yno.

Mae tri dyn – 20, 23 a 25 oed – wedi cael eu harestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol, ac maen nhw’n parhau yn y ddalfa.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw ar 101.