Mae nifer o Gymry adnabyddus wedi arwyddo llythyr agored at y Prif Weinidog, Theresa May, yn galw arni i ddatganoli pwerau dros ddarlledu i Gymru.

Yn eu plith mae’r actor Rhys Ifans, yr academydd Yr Athro Richard Wyn Jones a’r cyn-Archdderwydd Christine James.

Daw’r newyddion hyn ar drothwy cyhoeddi adroddiad adolygiad annibynnol o S4C, sy’n trafod, ymysg materion eraill, y posibilrwydd o ddatganoli cyfrifoldeb dros S4C o San Steffan i’r Cynulliad.

Derbyniodd yr adroddiad hwn ddeiseb gyda dros fil o enwau arni yn galw ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli’r cyfrifoldeb dros gyllideb S4C i Gaerdydd.

Mae hefyd dros hanner cant o bobol eisoes yn gwrthod talu am eu trwydded deledu fel rhan o ymgyrch i ddatganoli darlledu, gyda’r cerddorion Geraint Løvgreen a Steve Eaves yn eu plith.

Y sefyllfa bresennol ddim yn “iach”

Ymhlith y prif bryderon sy’n cael eu mynegi yn y llythyr mae’r cwymp yn oriau darlledu ITV Cymru dros y blynyddoedd diwethaf; toriadau i gyllideb S4C; a’r cwymp yn y ddarpariaeth leol a Chymraeg ar radio masnachol.

“Credwn fod angen llawer iawn mwy o gyfleoedd arnom fel cenedl ac fel pobl i siarad â’n gilydd, i gynnal trafodaethau ac i ddadlau: trafodaethau cynhwysol o ran holl amrywiaeth y profiad Cymreig sydd wedi’u gosod yng nghyd-destun ein hanes fel cenedl”, meddai’r llythyr, sydd wedi’i drefnu gan Gymdeithas yr Iaith.

“Ar hyn o bryd, mae’r cyfleoedd hynny yn hynod gyfyngedig oherwydd bod pwerau darlledu wedi’u cadw’n ôl yn San Steffan.

“Mae diffyg craffu gan y cyfryngau ar bob lefel o lywodraeth yng Nghymru: mae’r system bresennol yn methu ar hyn o bryd ac yn or-ddibynnol ar un darparwr yn unig.

“Nid yw’r sefyllfa bresennol yn iach i’n democratiaeth leol, i ddemocratiaeth Cymru nac i ffyniant y Gymraeg.”