Mae dyn wedi cael anafiadau sy’n peryglu ei fywyd yn dilyn digwyddiad yn Aberystwyth yn oriau man bore heddiw.

Digwyddodd ymosodiad difrifol ar Stryd Fawr y dref am oddeutu 2.20y.b.

Cafodd Ifan Owens o Gaerdydd, myfyriwr ail flwyddyn, ei gludo i Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth, cyn cael ei drosglwyddo’n ddiweddarach i Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Mae tri dyn wedi’u harestio ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol, ac maen nhw yn y ddalfa. Maen nhw’n 20, 23 a 25 oed.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â nhw ar 101.