Mae adroddiadau bod myfyriwr o Aberystwyth yn yr ysbyty yng Nghaerdydd yn dilyn digwyddiad y bore ma.
Cafodd y gwasanaeth ambiwlans ei alw am 2.17yb ac fe ddaethon nhw o hyd i’r dyn yn anymwybodol ar y Stryd Uchel.
Cafodd ei gludo i Ysbyty Bronglais cyn cael ei symud mewn hofrennydd i Ysbyty Athrofaol Caerdydd.
Mae’r heddlu’n cynnal ymchwiliad.