Fe fydd pennod arbennig o Songs of Praise sy’n cynnwys Brenhines Loegr a’r gantores Katherine Jenkins, ac sydd wedi’i chynhyrchu gan Avanti, yn cael ei darlledu gan y BBC yn ddiweddarach ddydd Sul.

Ac mae’r Uwch Gynhyrchydd Emyr Afan wedi dweud ei fod yn “brofiad hynod” cael darlledu gyda’r Frenhines.

Mae’r rhaglen, fydd yn cael ei darlledu ar BBC 1, yn dathlu 150 mlynedd ers sefydlu’r elusen Gristnogol, Scripture Union.

Cafodd y gwasanaeth ei gynnal yn Eglwys y Santes Fair yn Islington yng ngogledd Llundain, a chynulleidfa o 300 yn bresennol.

Yr elusen a’r rhaglen

Cafodd yr elusen ei sefydlu yn Llandudno yn 1868 gan Josiah Spiers, ac yntau ar ei wyliau ar y pryd.

Fe ysgrifennodd ‘Duw cariad yw’ yn Saesneg ar y tywod, ac fe ddaeth yn arwyddair yr elusen fyth ers hynny.

Mae’r Esgob Timothy Dudley Smith wedi ysgrifennu emyn newydd sbon ar gyfer y rhaglen.

Fe fydd y gyflwynwraig Pam Rhodes yn sgwrsio â Douglas Gresham, llysfab yr awdur CS Lewis.

Dywedodd Uwch Gynhyrchydd y rhaglen, Emyr Afan o gwmni Avanti: “Mae Songs of Praise wedi bod yn ychwanegiad hollbwysig i’r teulu o raglenni sy’n cael eu cynhyrchu gan dîm Avanti.

“Mae’n fraint bod yn gyfrifol am gynhyrchu un o raglenni teledu sydd wedi para hiraf yn y DU.

“Roedd yn brofiad hynod arbennig i recordio rhifyn gydag Ei Mawrhydi’r Frenhines yn bresennol ac rwy’n sicr y bydd cynulleidfa Songs of Praise yn rhannu’r un wefr pan gaiff y rhaglen ei darlledu.”

Bydd y rhaglen yn cael ei darlledu ar BBC 1 am 4.30pm.