Mae’r gyfreithwraig a arferai fod yn gyfrifol am holl erlyniadau troseddol Llys y Goron yng Nghymru wedi cychwyn ar swydd newydd lle bydd yn cadw llygad ar waith yr heddlu.

Catrin Evans yw Cyfarwyddwr Cymru Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC), y corff sy’n cymryd lle Comisiwn Annibynnol Cwynion i’r Heddlu.

Yr IOPC fydd yn gorchwylio cyfundrefn cwynion i’r heddlu yng Nghymru a Lloegr, ac fe fydd yn gosod safonau yn y modd y mae’r heddlu’n ymdrin â chwynion. Mae’r corff yn annibynnol o’r heddlu a’r llywodraeth, a does gan neb o’r cyfarwyddwyr gefndir plismona.

Mae Catrin Evans wedi dilyn gyrfa lwyddiannus fel eiriolwr, erlynydd ac uwch arweinydd cyfreithiol am bron i 31 mlynedd, ac mae’n rhugl ei Chymraeg.

“Dw i’n falch iawn o dderbyn swydd Cyfarwyddwr Cymru ac yn edrych ymlaen at y gwaith,” meddai. “Fe fyddwn yn ymchwilio i achosion difrifol a sensitif sy’n ymwneud â’r heddlu, ac yn defnyddio’r hyn fyddwn ni’n ei ddysgu i ddylanwadu ar newidiadau mewn plismona.”