Mae’r heddlu wedi enwi’r ddwy a fu farw mewn gwrthdrawiad rhwng car a lori ar yr A487 ger Gellilydan yng Ngwynedd ddydd Iau.

Roedd Anna Williams yn 22 oed ac yn dod o ardal Penrhyndeudraeth, a Mili Wyn Ginniver yn chwe mis oed ac yn dod o Flaenau Ffestiniog.

Roedd y ddwy yn teithio mewn Ford Fiesta pan oedd mewn gwrthdrawiad â lori tua 11.20 fore Iau.

Mae gyrrwr y car yn dal mewn cyflwr difrifol yn ysbyty Stoke.

Mae’r heddlu’n apelio ar i unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â nhw ar 101 gan nodi cyfeirnod W003114.