Mae gweithwyr cynghorau sir a staff cefnogol ysgolion Cymru wedi eu cynghori i wrthod codiad cyflog o 2%, gyda chodiad arall o 2% i ddod ym mis Ebrill.

Nid yw undeb Unite am i’w aelodau dderbyn y cynnydd am nad yw yn ddigon i wneud yn iawn am y ffaith, medden nhw, bod cyflogau wedi eu rhewi a’u cadw yn isel ers 2010.

Yn ôl yr undeb mae cyflogau eu haelodau wedi crebachu 21% mewn termau real tros y cyfnod hwnnw.

“Nid yw’r rhan fwyaf o aelodau llywodraeth leol Unite yn derbyn cyflog da, er eu bod nhw yn darparu gwasanaethau angenrheidiol i gymunedau ledled gwledydd Prydain,” meddai Jim Kennedy, Swyddog Cenedlaethol Unite.