Mae un person wedi marw a dau arall, gan gynnwys babi, wedi cael anafiadau difrifol yn dilyn gwrthdrawiad ffordd yng Ngwynedd ddoe.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r digwyddiad toc cyn 11.20yb ddydd Iau, 11 Ionawr yn dilyn adroddiadau am wrthdrawiad rhwng car a lori ar yr A487 yng Ngellilydan.

Bu farw dynes oedd yn teithio yn sedd flaen y car Ford Fiesta yn y fan a’r lle. Mae gyrrwr y car wedi cael ei chludo mewn hofrennydd i ysbyty yn Stoke, a merch fach chwe mis oed wedi’i chludo i Ysbyty Alder Hey yn Lerpwl. Mae’r ddwy wedi cael anafiadau difrifol sy’n bygwth eu bywyd.

Mae eu teuluoedd wedi cael eu hysbysu ac yn cael cymorth gan swyddogion arbenigol.

Dywed Heddlu’r Gogledd eu bod nhw’n awyddus i siarad efo’r rhai a oedd wedi stopio i roi cymorth. Maen nhw’n cael eu hannog i gysylltu â’r heddlu os oes ganddyn nhw unrhyw wybodaeth am y gwrthdrawiad.

Dylai unrhyw sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 gan nodi’r cyfeirnod W003114.

Roedd yr A487 ynghau am gyfnod ond mae bellach wedi ail-agor.