Mae’r Aelod Seneddol dros Ddwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, wedi cynnal cyfarfod brys yn San Steffan â rheolwyr banciau Barclays a NatWest, a hynny i drafod eu penderfyniad i gau banciau Dolgellau a’r Bala.

Fe ddaeth yn batrwm cyffredin i fanciau benderfynu cau canghennau mewn trefi gwledig, gan honni bod mwy a mwy yn bancio ar y we.

AC wrth i Barclays a NatWest gyhoeddi y byddan nhw’n cau canghennau Dolgellau a’r Bala, mae’n golygu mai dim ond un banc fydd ar ôl yn y ddwy dref farchnad – sef banciau HSBC.

Mae Liz Saville Roberts yn dweud ei bod yn cwestiynu’r rhesymeg y tu ôl i’r penderfyniad, ac yn apelio ar benaethiaid y banciau i ystyried yr effaith y bydd toriadau o‘r fath yn ei gael ar gymunedau gwledig.

Lleisio pryderon y ddwy dref

“Bancio yw un o’r gwasanaethau mwyaf sylfaenol a phwysig y mae pobol yn ddibynnol arno,” meddai Liz Savillie Roberts.

“Nid yw’n ddigon da i fanciau barhau â’r myth y dylai pob cwsmer symud i fancio ar-lein, oherwydd rydan ni gyd yn gwybod nad oes gan bawb fynediad at gysylltiad rhyngrwyd dibynadwy.

“Mae gan fanciau gyfrifoldeb cymdeithasol i wasanaethu ein cymunedau, ond yn anffodus mae’r darlun yma yr un fath ar draws gogledd Cymru, a bydd y cwymp mewn bancio lleol yn taro’r rhai mwyaf bregus unwaith eto.”