Fe fu farw barman yn nhafarn Walkabout yn Abertawe yn 2014 ar ôl mynd yn sownd mewn lifft yn y gweithle.

Clywodd y cwest i’w farwolaeth fod Cyran Stewart, 20, wedi cael anafiadau difrifol pan oedd yn helpu i dacluso’r adeilad yn dilyn noson i fyfyrwyr.

Roedd yn symud cadeiriau o un llawr i’r llall yn y lifft ar ddiwedd y noson pan aeth yn sownd. Fe clywodd ei gydweithwyr floedd, a bu’n rhaid i’r gwasanaeth tân ei ryddhau gan ddefnyddio cyfarpar arbennig i agor drysau.

Clywodd y cwest fod allwedd arbennig i agor y drysau wedi mynd ar goll, a bod rhaid i staff ddefnyddio dolen brwsh i geisio ei ryddhau.

Roedd cadeiriau a oedd yn pwyso 20kg yr un wedi’u gwasgu yn ei erbyn yn y lifft.

Bu farw ar Chwefror 28, 2014, bedwar diwrnod ar ôl mynd yn anymwybodol yn dilyn y digwyddiad.

‘Sawl cwestiwn’

Mae’r crwner, Colin Phillips, yn dweud bod angen ystyried “sawl cwestiwn” cyn dod i benderfyniad ynghylch marwolaeth Cyran Stewart.

Byddai’r rhain yn cynnwys tystiolaeth fod aelod o staff wedi cymryd rheolaeth dros fecanwaith diogelwch i sicrhau bod drws mewnol ar gau cyn symud y lifft yn hytrach na gadael iddo weithio ar ei ben ei hun.

Clywodd y rheithgor fod modd agor y drws â llaw gan ddefnyddio allwedd arbennig.

Roedd y drws mewnol ar agor, meddai’r crwner, a’r lifft yn llawn dodrefn.

Mae’r rheithgor hefyd wedi cael gorchymyn i ystyried y defnydd o’r lifft, a’r weithred o gymryd rheolaeth dros lifft awtomatig.

‘Nid dyma’r tro cyntaf’

Clywodd y cwest gan blismon oedd yn dweud bod digwyddiadau tebyg yn y gorffennol, lle’r oedd cadeiriau’n cael eu symud o un llawr i’r llall yn y lifft.

Bryd hynny, fe fu’n rhaid rhyddhau aelod o staff mewn sefyllfa debyg. Doedd y lifft ddim wedi cael ei ddefnyddio yn unol â’r gyfraith ers 2011, meddai.

Roedd Cyran Stewart a’i frawd Gavin yn gweithio ar y safle ac yn byw mewn llety yno hefyd.

Dywedodd eu mam, Elizabeth Williams ei bod hi eisiau atebion ynghylch marwolaeth ei mab.

Mae’r cwest yn parhau.