Mae S4C wedi cael ei chyhuddo o fod yn “ansensitif” ac yn “anghyfrifiol”, ar ôl peidio â rhoi rhybudd i wylwyr ar ddechrau cyfres ddrama newydd sy’n cynnwys golygfeydd o hunan-niweidio.

Cafodd y rhifyn cyntaf o’r gyfres ddrama, Craith, ei ddarlledu nos Sul ddiwethaf am 9yh, ac mae’n cael ei disgrifio fel “drama wyth rhan sy’n adrodd hanes y ditectif DI Cadi John” – sy’n cael ei chwarae gan yr actores, Siân Reese-Williams.

Ond yn ôl un gwyliwr, mae un olygfa yn y rhaglen sy’n dangos cymeriad yn niweidio ei hun mewn ôl fflachiad, wedi achosi gofid iddi, ac mae’n gresynu nad oedd S4C wedi rhoi rhybudd i’r gwylwyr ar ddechrau neu ar ddiwedd y rhaglen.

“Sioc”

Yn ôl Hedydd Elias o Aberystwyth, er iddi gael ei rhybuddio gan ffrind am yr olygfa dan sylw, roedd y profiad o’i gwylio yn dal yn “sioc” iddi.

“Dw i’n ei weld braidd yn anghyfrifol ac ansesitif i ddangos yr olygfa heb roi rhybudd ar ddachre’r rhaglen”, meddai wrth golwg360.

“Gallith e fod yn trigger i rywun. Mae’n rhywbeth anodd i’w weld os ydych chi mewn lle bregus – gallith e wir effeithio ar rywun.”

Golygfa “ddiangen”

Mae Hedydd Elias hefyd yn teimlo bod yr olygfa yn un “ddiangen”, gan fod y gwyliwr yn ymwybodol o hunan-niweidio’r cymeriad ers dechrau’r rhaglen – a dyna ydi cefndir teitl y ddrama, Craith.

“Dw i’n deall pam nethon nhw ddangos e, achos bo pobol ishe shock factor ac yn y blaen”, meddai. “Ond ro’n i’n meddwl ei fod e’n ddiangen.

“Os oedden nhw’n mynnu cadw’r olygfa yn y rhaglen, sef yr hyn naethon nhw, fe ddylen nhw’n bendant wedi dweud bod yna olygfeydd anodd i’w gwylio yn y rhaglen, jyst er mwyn i bobol fod yn ymwybodol a gallu gwneud y penderfyniad, ‘wel dw i ddim eisiau gweld rhywbeth na fydda i’n gallu ymdopi ag e’.

“Fe ddylai’r rhybudd fod yna, dw i’n credu.”

Ymateb S4C

Meddai llefarydd ar ran S4C: “Hoffwn ddiolch i’r gwyliwr am ei sylwadau am y ddrama Craith, rydym yn gwerthfawrogi pob adborth.

“Hoffwn ddweud bod S4C wedi rhoi rhybudd cynhwysfawr ar ddechrau’r darllediad yn nodi bod y ddrama yn cynnwys iaith gref a golygfeydd o drais a allai anesmwytho a pheri gofid i wylwyr.

“Mae Craith yn gyfres sy’n ymdrin â phynciau dirdynnol, a dyna pam y mae’r gyfres yn cael ei darlledu ar ôl y trothwy am naw ar nosweithiau Sul.”