Mae Cymro Cymraeg o Ynys Môn wedi ei benodi’n weinidog yn swyddfa Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns.

Mae Stuart Andrew yn Aelod Seneddol dros Pudsey yn Swydd Efrog, ond wedi derbyn ei addysg yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy, cyn mynd i weithio i nifer o elusennau iechyd.

Daw’r newyddion wrth i Brif Weinidog Prydain, Theresa May ad-drefnu ei Chabinet ac wrth i Aelod Seneddol Aberconwy, Guto Bebb gael cynnig swydd arall.

Dechreuodd ei yrfa wleidyddol yn gynghorydd Ceidwadol yn Wrecsam yn 1995, cyn sefyll etholiad yn yr etholaeth ddwy flynedd yn ddiweddarach. Fe symudodd wedyn at y Blaid Lafur am gyfnod ar ôl codi cwestiynau am gyfeiriad y Blaid Geidwadol.

Ond fe ailymunodd â’r Ceidwadwyr cyn symud i Leeds a dod yn gynghorydd sir o 2003 i 2010, a chael ei ethol wedyn yn Aelod Seneddol dros Pudsey yn 2010.

Fe fu’n aelod o Bwyllgor Materion Cymreig San Steffan rhwng 2010 a 2012.

Daeth yn adnabyddus drwy wledydd Prydain yn 2012 am iddo gael ei daro gan yr Aelod Seneddol Eric Joyce mewn bar yn San Steffan.

Yn fwyaf diweddar, fe fu’n Ysgrifennydd i Gadeirydd y Ceidwadwyr, Patrick McLoughlin ac yn is-Gadeirydd y blaid. Mae’n gefnogwr brwd o Brexit.