Mae nifer o bobol a oedd yn gwylio S4C dros gyfnod y Nadolig wedi cynyddu o 5%, tra bo sianeli cyhoeddus eraill wedi gweld cwymp o 2%, yn ôl y ffigyrau diweddaraf.

Mae’r ystadegau gan Fwrdd Ymchwil Cynulleidfa Darlledwyr (BARB) yn dangos bod 5% yn fwy o bobol wedi gwylio S4C rhwng Noswyl Nadolig a’r Calan yn 2017, o gymharu â’r un cyfnod yn 2016.

Roedd y ffigyrau cyfatebol ar gyfer sianeli BBC1, BBC2 ac ITV yn dangos cwymp o 2%.

Prif raglenni S4C

Tair prif raglen S4C dros y gwyliau oedd:

  • pantomein Shane a’i Belen Aur
  • rhifyn arbennig o Noson Lawen yn talu teyrnged i’r digrifwr, Ryan Davies
  • rhaglenni comedi gan Tudur Owen, Siân Harries ac Elis James

“Blwyddyn arbennig iawn”

Yn ôl Prif Weithredwr S4C, Owen Evans, mae 2017 wedi profi’n “flwyddyn arbennig iawn” i S4C.

“Diolch i’r holl wylwyr – hen a newydd – sydd wedi croesawu S4C i’w cartrefi dros y Nadolig. Mae’n ddiwedd gwych i 2017 ac yn argoeli’n dda ar gyfer 2018.”