Mae Gweinidog y Gymraeg yn Llywodraeth Cymru wedi rhybuddio na fydd awdurdodau lleol yn cael arian at godi ysgolion newydd os nac ydyn nhw’n cynyddu addysg Gymraeg yn eu hardaloedd.

“Y ffaith yw na fyddwn ni’n eu helpu nhw gyda chodi ysgolion newydd os nac ’yn nhw yn ein helpu ni i gyrraedd ein targedi ni [o filiwn o siaradwyr Cymraeg],” meddai Eluned Morgan.

Roedd y Llywodraeth wedi anfon cynlluniau addysg Gymraeg yn ôl at bob un o’r awdurdodau addysg gan ofyn iddyn nhw fod yn fwy uchelgeisiol, meddai ar y rhaglen Dan yr Wyneb ar Radio Cymru neithiwr (nos Lun).

Er fod llawer bellach yn dderbyniol, mae cynlluniau rhai cynghorau’n parhau’n anfoddhaol ac fe fydd “angen eu gwthio nhw ymhellach fyth”.

Anfon pob cynllun yn ôl

Roedd Eluned Morgan yn trafod ei chynlluniau iaith ar gyfer y flwyddyn nesa’ ac addysg, meddai, fydd sylfaen yr ymgais i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Yn ystod yr wythnosau nesa’ fe fydd yn edrych ar gynlluniau’r awdurdodau lleol ar ôl i’r Llywodraeth ofyn iddyn nhw am eu syniadau ynglŷn â lledaenu addysg Gymraeg yn eu hardaloedd.

“Oedd llawer ohonyn nhw wedi methu â gwneud beth oedden ni’n gobeithio a ni wedi anfon cynlluniau’n ôl atyn nhw i gyd… ac wedi gofyn iddyn nhw ail feddw sut maen nhw’n mynd i gyrraedd dy targed.”

Doedd hyd yn oed y cynlluniau da iawn, meddai, ddim yn ddigon uchelgeisiol tra oedd awdurdodau eraill ddim yn deall bod y Llywodraeth “o ddifri calon” ynglŷn â’r nod.

O ddifri

“Mae yna linc wedi ei wneud gyda’r ffaith fod lot fawr o arian ychwanegol i godi ysgolion yng Nghymru… fyddan nhw ddim yn cael hynny os nac ’yn nhw’n dangos eu bod nhw yn cymryd ein nod ni o gyrraedd y targed yna o filiwn ni o ddifri,” meddai Eluned Morgan.