Mae Prifysgol Abertawe wedi penodi Canghellor newydd, sef yr Athro Fonesig Jean Thomas.

Mae’n olynu’r diweddar Rhodri Morgan, cyn-Brif Weinidog Cymru, a fu’n Ganghellor Prifysgol Abertawe rhwng 2011 a 2017.

Mae hi’n Athro Biocemeg Emeritws ym Mhrifysgol Caergrawnt a bu’n Feistr Coleg St Catherine, Caergrawnt, yn ddiweddar a hi yw Llywydd presennol y Gymdeithas Bioleg Frenhinol.

Mae’n gyn-fyfyriwr o Brifysgol Abertawe, lle graddiodd â gradd BSc Dosbarth Cyntaf mewn Cemeg yn 1964, ac yna derbyn PhD mewn Cemeg yn 1967.

Meistr y coleg

Wedi hynny, sefydlodd Gymrodoriaeth Ymchwil Goffa Beit yn y Labordy Bioleg Foleciwlaidd yng Nghaergrawnt, cyn ymuno â staff academaidd yr Adran Biocemeg, Prifysgol Caergrawnt, ddwy flynedd yn ddiweddarach, gan ddod yn Athro Biocemeg Facro-foleciwlaidd yn 1991.

Yn 2007, cafodd ei hethol yn 38ain Meistr Coleg St Catherine, Caergrawnt – y fenyw gyntaf, a’r unig un hyd yn hyn, i’w hethol yn Feistr y Coleg ers iddo gael ei sefydlu yn 1473.

“Braint”

Wrth gael ei phenodi ar gyfer y swydd, cyfeiriodd yr Athro Fonesig Jean Thomas at y ffaith nad oedd hi, fel myfyriwr, erioed wedi dychmygu y byddai’n Ganghellor Prifysgol Abertawe ryw ddiwrnod.

 

“Pan raddiais o Brifysgol Abertawe flynyddoedd maith yn ôl, ni allwn fod wedi dychmygu un diwrnod y byddai gen i’r fraint o wasanaethu fel ei Changhellor,” meddai.

 

“Mae’r Brifysgol yn parhau i gyflawni ac i ehangu, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fod yn rhan o’r uchelgais cyffrous hwn wrth i ni agosáu at y Canmlwyddiant yn 2020.”

 

Mae’r Athro’r Fonesig Jean Thomas wedi cychwyn ar ei gwaith heddiw, a hynny yn ystod cynulliadau graddio’r gaeaf sy’n cael eu cynnal yr wythnos hon yn y Neuadd Fawr ar Gampws y Bae’r Brifysgol.