Fe fydd dyn 56 oed yn mynd gerbron Llys Ynadon Abertawe heddiw ar gyhuddiad o lofruddio dynes.
Cafwyd hyd i gorff Terrie-Ann Jones mewn tŷ yng Nghastell-nedd nos Wener.
Cafodd yr heddlu eu galw i’r eiddo yn Heol Talbot tua 7.35yh nos Wener.
Mae dyn o Lansawel wedi cael ei gyhuddo o’i llofruddio a bydd yn mynd gerbron ynadon heddiw.
Dywed Heddlu De Cymru bod teulu Terrie-Ann Jones yn cael cymorth gan swyddogion cynorthwyol.
Mewn datganiad iddi, dywedodd ei theulu ei bod yn “fam, merch, chwaer, modryb a ffrind cariadus i nifer.”