Mae angen i Aelodau’r Cynulliad wneud mwy o ddefnydd o’r Gymraeg, yn ôl ymgyrchwyr iaith.

Daw’r galw ar ôl i Gymdeithas yr Iaith gyhoeddi ystadegau heddiw sy’n dangos mai dim ond 12% o’r amser y cafodd y Gymraeg ei defnyddio yn ystod trafodaethau’r Siambr ers etholiadau’r Cynulliad yn 2016.

Ac mae Cymdeithas yr Iaith yn awgrymu mai un ffactor sydd wedi arwain at y ffigyrau hyn yw’r diffyg defnydd o’r iaith gan weinidogion y Llywodraeth, gan ddweud bod angen “newid” i’w harfer o gynnal areithiau ac ateb cwestiynau trwy gyfrwng y Saesneg.

Siân Gwenllian yn “esiampl”

Yr Aelod Cynulliad dros Arfon, Siân Gwenllian, sy’n cyrraedd y brig fel yr Aelod Cynulliad sydd wedi defnyddio’r Gymraeg y fwyaf o weithiau, wedi iddi siarad yr iaith 99% o’r amser yn ystod cyfarfodydd llawn.

Mae Carwyn Jones, ar y llaw arall, yn disgyn o dan y cyfartaledd wedi iddo ddefnyddio’r iaith dim ond 10% o’r amser; tra bod defnydd Dafydd Elis-Thomas o’r Gymraeg wedi disgyn o 95% yn 2015 i 73% ers mis Mai 2016.

Angen i wleidyddion “ddangos arweiniad”

Wrth ymateb i’r ffigyrau hyn, dywedodd Osian Rhys o Gymdeithas yr Iaith ei bod yn “destun pryder” bod cyn lleied o’r Aelodau Cynulliad yn defnyddio’r Gymraeg yn y Siambr, yn enwedig ymhlith gweinidogion y Llywodraeth.

“Mae’n debyg ei bod hi’n arfer gan Weinidogion i wneud y rhan fwyaf o’u hareithiau yn Saesneg ac ymateb i gwestiynau Saesneg yn Saesneg, a hynny er bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael bob amser,” meddai Osian Rhys.

“Mae angen newid yr arfer hwnnw, ac os nad yw’r gwasanaeth sifil yn darparu digon o gefnogaeth i baratoi areithiau ac atebion yn Gymraeg, mae angen arweiniad oddi uchod.

“Mae cyfrifoldeb arbennig ar ein gwleidyddion i ddangos arweiniad. Ar ddechrau’r flwyddyn newydd felly, rydyn ni’n gofyn i bob Aelod Cynulliad wneud adduned i siarad mwy o Gymraeg yn y Siambr.”

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae hanner Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn siarad Cymraeg ac yn defnyddio’r iaith yn rheolaidd yn y Siambr ac wrth ymgymryd â busnes y Llywodraeth.”