Fe fydd dileu TAW ar dollau pontydd Hafren yn “gam mawr ymlaen i economi Cymru”, yn ôl Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns.

O heddiw (Ionawr 8) ymlaen, mae prisiau croesi’r pontydd yn gostwng, a fydd dim rhaid talu TAW.

Daw’r cynllun i rym ar ôl i’r pontydd ddychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus, a Highways England fydd yn gyfrifol amdanyn nhw o hyn ymlaen.

Y pris o hyn ymlaen ar gyfer ceir fydd £5.60 yn hytrach na £6.70, a’r disgwyl yw y bydd hyn, yn ogystal â dileu TAW, yn arbed £1,400 y pen y flwyddyn.

Fydd dim rhaid ychwaith i lorïau busnes dalu mwy na £16 i wneud y daith.

Y disgwyl yw y bydd hyn yn arbed dros £100 miliwn i economi Cymru.

Bydd y tollau’n cael eu dileu’n llwyr erbyn diwedd y flwyddyn. Bydd effaith dileu’r tollau’n cael ei thrafod gan Ysgrifennydd Cymru a busnesau’r ddwy ochr i’r Hafren mewn uwchgynhadledd yng Nghasnewydd ar Ionawr 22.

Prisiau – ‘yr hwb economaidd mwyaf i’r de a’r cymoedd’

O heddiw ymlaen, fe fydd ceir a cherbydau hyd at naw sedd yn talu £5.60 i groesi, cerbydau hyd at 3.5 tunnell neu fysys bach yn talu £11.20 (i lawr o £13.40), a cherbydau dros 3.5 tunnell neu fysys mawr yn talu £16.70 (i lawr o £20).

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns y bydd y gostyngiad yn arwain at “yr hwb economaidd mwyaf i dde Cymru a’r cymoedd”, a’i fod yn “symbol clir o dorri’r rhwystrau economaidd a hanesyddol sydd wedi llesteirio llewyrch Cymru i lawr – tra’n cynnal undod y Deyrnas Unedig”.

Ychwanegodd: “Fy mhrif flaenoriaeth fel Ysgrifennydd Gwladol oedd dileu’r tollau, a fydd nid yn unig yn gwneud teithiau’n rhatach i fudwyr a theithwyr, ond a fydd hefyd yn creu cyfleoedd cyffrous i fusnesau a buddsoddwyr sy’n ceisio gosod eu stamp ar Gymru.

“Bydd hyn yn rhoi hwb i gyflogaeth yng Nghymru ac yn sefydlu perthnasau hirdymor rhwng economïau a chymunedau de Cymru a de-orllewin Lloegr, gan greu’r coridor twf mwyaf o Gaerdydd a thrwy Gasnewydd i Fryste.

“Mae’n bryd gwneud i wleidyddiaeth ffitio busnes, ac nid gwneud i fusnes ffitio gwleidyddiaeth.”