Mae tri ffarmwr yng Nghymru yn rhan o grŵp i geisio dangos i bobol bod ffermwyr yn gwneud daioni i’r amgylchedd.

Bwriad y Rhwydwaith Ffermio Natur-Gyfeillgar (Nature Friendly Farming Network) yw ceisio cael gwared ar ragdybiaethau bod ffermio yn wael i’r amgylchedd ac i hyrwyddo ffermio cynaliadwy.

Mae Geraint Davies o’r Bala, Sorcha Lewis o Ddyffryn Elan a Gethin Owen o Abergele wedi ymuno â’r grŵp sy’n gweithredu ar draws gwledydd Prydain.

Dangos bod ffermwyr yn ‘gynaliadwy’

Wrth siarad â golwg360, dywed Geraint Davies, sy’n ffermio ar fferm wartheg a defaid organig, Fedwarian, mai’r bwriad yw “dangos pa mor agos i natur y mae ffermwyr yn ffermio’n barod a faint o dda rydan ni’n gwneud i’r amgylchedd”.

“Yn enwedig rŵan, mae Michael Gove wedi dod allan a deud am y ‘Green Brexit’ yma, wel rydan ni eisiau hyrwyddo nawr i’r cyhoedd a thimau polisïau’r gwledydd datganoledig bod ni’n gwneud hyn yn barod.

“O be’ dw i’n ei ddarllen allan yna, mae yna ormod o bobol yn newyno’r ffarmwr yn erbyn be’ rydan ni’n gwneud.

“Mae yna lwyth o ffermwyr allan yna sy’n edrych ar ôl yr amgylchedd ac yn cynhyrchu bwyd o’r safon uchaf, ond dydyn nhw ddim yn codi i fyny ac yn deud be’ maen nhw’n gwneud.

“Mae llond llaw ohonon ni rŵan wedi dod at ein gilydd i drio gallu dangos bod ffermwyr allan yna wrthi yn barod.”

Mae’r fframwaith yn gobeithio dylanwadu ar bolisi llywodraethau’r Deyrnas Unedig ac i arwain y ffordd ar ddiogelu bywyd gwyllt a chynhyrchu bwyd cynaliadwy.

Ac yn ôl Geraint Davies, mae croeso i ffermwyr o bob cornel o wledydd Prydain ymuno â’r fenter.