Mae nifer y ceisiadau i hyfforddi fel athrawon yng Nghymru wedi gostwng 25% dros y flwyddyn ddiwethaf, yn ôl ffigurau sydd newydd eu cyhoeddi.

740 o geisiadau ddaeth i law erbyn canol mis Rhagfyr, yn ôl UCAS, o’i gymharu â 1,000 yn yr un cyfnod yn 2015 a 2016.

Daw’r gostyngiad er i Lywodraeth Cymru gyflwyno mesurau newydd i annog mwy o bobol i hyfforddi i fynd yn athrawon.

Ymhlith y rhesymau posib sy’n cael eu cynnig am y gostyngiad mae llwyth gwaith athrawon, a llai o ysgogiad ariannol o’i gymharu â Lloegr. Ym mis Hydref, daeth cadarnhad y byddai ysgogiad o £20,000 yn cael ei gynnig i athrawon dan hyfforddiant yng Nghymru pe bai ganddyn nhw radd dosbarth cyntaf neu gymhwyster ôl-radd ac yn dilyn cyrsiau mewn mathemateg, Cymraeg, Gwyddorau Cyfrifiadurol, Ffiseg neu Gemeg.

£15,000 yw’r swm ar gyfer myfyrwyr ieithoedd tramor.